Gwobr Hans Christian Andersen, Medal Carnegie, Medal Carnegie, Gwobr Phoenix, Gwobr Phoenix, Urdd Seland Newydd, Prime Minister's Award for Literary Achievement (Fiction), New Zealand Post Children's Book Awards, Esther Glen Award
Awdures llyfrau plant a phobl ifanc o Seland Newydd oedd Margaret Mahy (21 Mawrth1936 - 23 Gorffennaf2012). Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Haunting a The Changeover. Mae naws goruwchnaturiol a hyd yn oed gwyddonias i'w llyfrau, ond mae hefyd yn canolbwyntio ar gymeriadau a'u perthynas at ei gilydd wrth iddynt fynd drwy eu harddegau a chyfnod glasoed.
Fe'i ganed yn Whakatane ar 21 Mawrth1936; bu farw yn Christchurch. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Canterbury, Seland Newydd a Phrifysgol Auckland.[1][2][3][4][5]
Ysgrifennodd dros 100 o lyfrau gyda lluniau, 40 o nofelau ac 20 casgliad o straeon byrion. Pan fu farw, roedd yn un o dri-deg o awduron yn unig a oedd wedi ennill Medal Hans Christian Andersen am ei “chyfraniad parhaol i lenyddiaeth plant”.[6][7][8][9]
Enillodd Mahy Fedal Blynyddol Carnegie gan Gymdeithas y Llyfrgelloedd, am y llyfr plant gorau'r flwyddyn gan berson o Brydain, am ei chyfrol The Haunting (1982) ac am The Changeover (1984). Yn ôl rhai, mae rhai o'i chyfrolau'n cael eu hystyried yn 'glasuron' yn Lloegr; mae'r rhain yn cynnwys A Lion in the Meadow, The Seven Chinese Brothers a The Man Whose Mother was a Pirate.[10]
↑Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.